Croeso
Mae ardal Cyngor Tref Porthmadog yn cynnwys tref Porthmadog ei hun yn ogystal â phentrefi Borth-y-Gest, Morfa Bychan, Pwllgoleulas a Thremadog.
Codwyd Tremadog ar dir a gipiwyd o’r môr ar ôl i William Alexander Madocks gwblhau’r morglawdd neu’r Cob dros aber Afon Glaslyn neu’r Traeth Mawr yn 1811. Tyfodd Porthmadog wedyn yn sgil datblygu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog fel porthladd ar gyfer allforio’r garreg las i bedwar ban byd. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd roedd Porthmadog a Borth-y-Gest yn ganolfannau adeiladu llongau masnach o bwys.
Cyrchfan boblogaidd i ymwelwyr yw’r ardal erbyn hyn wrth iddynt heidio am draethau godidog Bae Tremadog neu am fynyddoedd a chlogwyni heriol Eryri. Mae yma amrwyiaeth o lety yn ogystal â bwytai a thafarndai sy’n cynnig prydau diddorol, blasus a fforddiadwy.
Bro Gymraeg yw Porthmadog gyda’r iaith a’r diwylliant yn greiddiol i’w hunaniaeth. Dyma fu cartref Eifion Wyn a William Jones Tremadog, Alltud Eifion - a Percy Bushe Shelley hefyd yn ei dro. Bu Twm o’r Nant yn troedio’r ardal a dyma fan geni Thomas Edward Lawrence o Arabia a’r tenor adnabyddus, Rhys Meirion.
Mae Porthmadog wedi’i gefeillio â thref Wiclo (Cill Mhantáin) yn Iwerddon.
Felly dewch i ardal Porthmadog i brofi ein diwylliant unigryw, ein hanes cyffrous a’r golygfeydd ysblennydd. Chewch chi mo’ch siomi.
Hysbysfwrdd
Cynhelir cyfarfod nesaf Cyngor Tref Porthmadog ar 14/05/2024
Mae Cyngor Tref Porthmadog yn awyddus i benodi Clerc y Dref / Swyddog Ariannol Cyfrifol newydd.
Swydd Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol
Cyflog graddfa pwyntiau LC2 (22-27), yn amodol ar brofiad a chymwysterau. Cyflog i'w adolygu ym mis Ebrill 2025
Oriau - 24 awr yr wythnos.
Dyddiad cau 12fed o Ebrill 2024.
Gofynnir am geisiadau gan ymgeiswyr addas ar gyfer y swydd uchod.
Am fwy o fanylion am y swydd a swydd ddisgrifiad manwl, cysyllter â’r Cadeirydd, ar 07919414869 neu e-bost i Aled Griffith alsgwal@gmail.com
Dylid anfon ceisiadau, yn cynnwys CV, gyda llythyr i gefnogi’r cais, i Aled Griffith alsgwal@gmail.com
Dyddiad cau – dydd Gwener, 12fed o Ebrill 2024
This is a job advert for a Clerk and Responsible Financial Officer for Porthmadog Town Council. The ability to communicate both in Welsh and English is essential.
Cynllun Creu Lleoedd Porthmadog (Adobe PDF)
Mae Cyngor Gwynedd wedi comisiynu Savills i sefydlu’r blaenoriaethau strategol a chyflwyno'r weledigaeth derfynol i arwain adfywiad canol tref Porthmadog:
1. Harbwr Porthmadog a Sgwâr Pen Cei
2. Parc y Dref
3. Safle’r Hen Coliseum
4.
Maes Parcio DWP
5. Cob Crwn
Porthmadog Placemaking Scheme (Adobe PDF)
Cyngor Gwynedd has commissioned Savills to establish a definitive vision and strategic priorities to guide the regeneration of Porthmadog town centre:
1. Porthmadog Harbour and Pen Cei Square
2. The Town Park
3. Old Coliseum Site
4. DWP Car Park
5. Cob Crwn
Hwb Arloisi, 144 Stryd Fawr/High Street, Porthmadog
Dydd Llun/Monday 04/03/2024 3-5yp/pm
Oes diddordeb hefo chi i gymryd rhan mewn prosiect creadigol cymunedol?
Dewch i greu MAP o'r dref mewn ffabrigau, brodwaith llaw a chlytwaith.
Join a creative community project to create an embroidered patchwork MAP of Porthmadog.
Be Nesa Port? / What Next Port? -- 09/03/2024
Y Ganolfan, Porthmadog
09/03/2024 10 - 3pm/yp
Cyfle y gael sgwrs am gynllun datblygu cymunedol
A chance to share your thoughts on community development
Llyfryn Cymunedoli - Cymuned o Gymunedau
Cylchlythyr Awel Y Mor - Chwefror 2024
Awel Y Mor Newsletter - February 2024
Ffair Swyddi - Y Ganolfan, Porthmadog, 27/02/2024
Cronfa Cymunedau Eryri:
Grantiau o £5000 - £20,000 ar gael ar gyfer sefydliadau neu grwpiau cymunedol.
24/02/23 - Hysbysiad o Gyfethol
Adroddiad Flynyddol 2020-2021
Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021
COVID-19
Roedd y Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodio a thystio'r cyfrifon ar 1af o Ebrill 2020.
Mae rheoliad 15(2) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn eu gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y swyddog cyfrifol y cyferir ato uchod, fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo'r cyfrifon . Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30 Mehefin 2020.
Oherwydd achos y Covid-19, nid yw Cyngor Tref Porthmadog wedi cwrdd i gymeradwyo'r cyfrifon.
***************
The Responsible Financial Officer signed and certified the accounts on 1st of April 2020.
Regulation 15(2) of the Accounts and Audit (Wales) Regulations 2014 (as amended) requires that following the certification by the Responsible Financial Officer referred to above, the Council must approve the accounts. The Regulations require that this be completed by 30 June 2020.
Due to the COVID-19 outbreak, Porthmadog Town Council has not met to approve the accounts.
Mae Cyngor Tref Porthmadog yn chwilio am aelod o'r gymuned leol i'w cynrychioli ar fwrdd Llywodraethol Ysgol Eifion Wyn. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch efo'r Clerc - clerccyngtreport@gmail.com neu ffonio 01766 513709.
Darllenwch Adroddiad Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog - rhowch glic yma
Lawrlwythwch cofnodion cyfarfodydd y Cyngor trwy ymweld â'n tudalen Cofnodion