Adroddiad y Cadeirydd

Tachwedd 2023

“Croeso i gyfarfod mis Tachwedd.

Edrych yn ôl ers y cyfarfod diwethaf - teimlo fel cyfnod distaw cyn bwrlwm y Nadolig. Y tywydd wedi newid ond dal yn fwyn o ran y tymheredd.

Cofion - Diolch i Alwyn Gruffydd am sefyll i mewn ar Sul y Cofio ar Fryn Coffa, a chydymdeimlwn â phawb yn yr ardal sydd wedi colli eu hanwyliaid.

Y Stryd Fawr a chyrion y dref - Y stryd a’r siopau yn dechrau arddurno tuag at y Nadolig. Ambell i adeilad yn dal yn cael gwariant arnynt er mwyn agor yn y dyfodol e.e.. Hen Fanc Barclays, Grapevine ac ati. Trist oedd gweld y siop ffrwythau olaf yn cau ar Stryd Fawr Porthmadog sef Siop R.G Pritchard, Llwyn Onn ar ôl 89 o flynyddoedd.

Da oedd gweld fod yr hen siop Wilkos yn cael ei gymryd drosodd dechrau flwyddyn nesaf, bydd yn helpu cadw cyflogaeth lleol a siopwyr yn yr ardal.

Diolch i’r Cynghorwyr a’r Clerc am ddod allan i archwilio Cae Pawb ar fore Sadwrn gwlyb, hefyd i gyfarfod safle croesfan Gorseddau ar lein y Cambrian wrth Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru. Cyfarfod safle gwerth chweil i ddangos i Network Rail pa mor brysur yw'r ardal yma gydag ardal i dri busnes, cerddwyr a mynedfa i ddwy ysgol gerllaw. Cawn weld beth fydd y canlyniad ”

 

Harbwr Porthmadog (h) Ken Bagnall

Hawlfraint: Cyngor Tref Porthmadog. Dylunio: www.Cymru1.net

Hawlfraint Lluniau:
Prif Llun Harbwr Porthmadog: Ken Bagnall
Llyn Bach: Kenneth Allen, Graig Ddu: Chris Carlson, Harbwr Borth Y Gest: David Medcalf, Gist Gerrig: Dewi, Harbwr Porthmadog: Alan Fryer,
Stryd Fawr, Porthmadog: John Lucas, Stryd Fawr, Porthmadog: Eric Jones, Tremadog: Eric Jones