Cyfrifoldebau

Disgrifiad cyffredinol o gyfrifoldebau a gweithgareddau Cyngor Tref Porthmadog.

Cynhelir cyfarfodydd Cyngor Tref Porthmadog ar yr ail ddydd Mawrth o bob mis yn y Ganolfan, Porthmadog am 19:00 ac mae'r cyfarfodydd hyn yn agored i'r cyhoedd. Annogir aelodau o'r cyhoedd i gysylltu รข'r Cyngor gyda’u sylwadau neu bryderon ac mae’r Cyngor yn credi ei bod hi’n hanfodol cael perthynas dda gyda'r etholwyr.

Mae Cyngor Tref Porthmadog yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o wahanol wasanaethau o fewn yr ardal y mae'n ei gynrychioli ac yn gweithredu yn agored a thryloyw er budd ac ar ran y gymuned gyfan.

Rhai o gyfrifoldebau Cyngor Tref Porthmadog yw:

  • Gosod y praesept, sef y dreth ddomestig sy'n cael ei ddosbarthu i'r Cyngor Tref bob blwyddyn.
  • Cyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio.
  • Cynnal a chadw ein tiroedd a'n heiddo sef Cae Pawb, Bryn Coffa, Cae Chwarae Bodawen a'r llwybrau cyhoeddus sy'n dod o dan gyfrifoldeb Cyngor Tref Porthmadog.
  • Mae Cyngor Tref Porthmadog yn gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddol er lles yr amgylchedd, yr amgylchfyd a'r gymuned.

Bioamrywiaeth

Adroddiad Cynllun Bioamrywiaeth 2022 Cyngor Tref Porthmadog

 

Gist Gerrig (h) DewiLlyn Bach (h) Kenneth AllenTremadog (h) Eric Jones

Hawlfraint: Cyngor Tref Porthmadog. Dylunio: www.Cymru1.net

Hawlfraint Lluniau:
Prif Llun Harbwr Porthmadog: Ken Bagnall
Llyn Bach: Kenneth Allen, Graig Ddu: Chris Carlson, Harbwr Borth Y Gest: David Medcalf, Gist Gerrig: Dewi, Harbwr Porthmadog: Alan Fryer,
Stryd Fawr, Porthmadog: John Lucas, Stryd Fawr, Porthmadog: Eric Jones, Tremadog: Eric Jones